gwaith ar droed mawr iawn.
yn eich plentyndod, roeddech chi'n mwynhau rhedeg ar bedwar. rydych chi'n teimlo'n fel rhywbeth yn anghywir, fel rhywbeth sy'n bod arnoch chi. rydych chi'n caru arswyd, gwaed, a phethau y pobl eraill yn meddwl rhyfedd.neu efallai rydych chi'n dyheu am le sy'n bell o 'ma. mae'ch corff yn teimlo'n rhyfedd, fel mae rhywbeth yn ei colli.
a felly, rydych chi'n gofyn, nid wyf i... dynol?
wel, nid wyf siado yn gallu dweud yn sicr i chi. ond gobeithio, byddwch chi'n gwybod eich teimladau ychydig yn well ar ôl darllen tudalen hon.

beth yw noliddynaeth?
mae noliddynaeth yn llawer, llawer o brofiadau, teimladau, a hunaniaethau sy rhywbeth heblaw dynol yn llawn.mae brela hyn yn cynnwys unrhyw beth o greaduriaid a phlanhigion, i gymeriadau, i wrthrychau. mae rhai pobl yn fampir sy'n bwydo ar egni. mae eraill yn teimlo eu bod yn perthyn rhywle arall. ac mae rhai, fel siado, yn teimlo'n llawer o bethau ar yr un pryd.
dyw noliddynaeth ddim yn jyst un peth - mae llawer o bobl â llawer o feddyliau. felly os dyw ysbrydion a bywydau gorffennol ddim yn eich peth, mae'n iawn.
ar rhai bobl, rhywbeth mewn ymennydd yw noliddynaeth - maen nhw'n teimlo'n fel y pethau eraill hwn yn eu teulu, neu fel rhwybeth sy'n bod arnon nhw yn eu wneud yn wahanol.
os mae pobl yn eu anwybyddu ac esgeuluso, wel wrth gwrs maen nhw'n teimlo'n wahanol. hefyd, pan rydych chi'n anabl - yn enwedig anabl yn ddifrifol - mae mwyaf o bobl yn eich gweld fel anifail. rydych chi'n dod yn datgysylltu o'ch byd, ydych chi'n gwybod? mae'n anodd gweld eich hun fel person pan fydd neb arall ddim yn gwneud, a felly, mae rhai yn cymryd cysur yn pethau fel doliau, anifeiliaid, neu'r cymeriadau o'u hoff gyfryngau.
fel person anabl, rydych chi'n gallu teimlo fel anifail gwasanaeth neu technoleg gynorthwyol yn ran o chi - rhywbeth y dyw pobl ddim yn gallu eich rhoi ac yn dal bod yr un person. neu rydych chi'n teimlo'n gyffordusach pan gyda'ch cathod, achos ydyn nhw ddim yn defnyddio iaith cymhleth i ddweud helo neu dim nawr neu dw i'n dy garu.
wrth gwrs... ysbridion a bywydau gorffennol yw'r gwir ar rhai bobl. efallai mae damcaniaeth a phrofiadau â bydoedd eraill gyda nhw. amser maith yn ôl, maen nhw'n bywyd fel tywysog hudol, arth, neu'r coed tal tal sy'n cyffwrdd y pen y byd. pwy sy'n gallu dweud maen nhw'n anghywir i deimlo'n fel hwn? mae'n ryfedd i rai, ydy, ond dyw neb arall ddim yn cael eu brifo achos hyn.